GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Ydy |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
11 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
18 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 29 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag [adran [nau] [ ]] o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Diben yr offeryn hwn yw sicrhau bod llyfr statud y DU yn cynnwys "cyfraith yr UE a ddargedwir", sef corff newydd o gyfraith ddomestig a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gydlynol ac yn effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Mae'r offeryn hwn yn diwygio Deddf Dehongli 1978 (a Deddf Dehongli a Diwygio Deddfwriaethol (Yr Alban) 2010 a Deddf Dehongli (Gogledd Iwerddon) 1954, sy'n nodi rheolau cyffredinol o ran dehongli ar gyfer deddfwriaeth.
Mae'r offeryn hwn yn darparu ar gyfer sut y dylid darllen croesgyfeiriadau nad ydynt yn newidiadwy i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd hyd at y pwynt yn union cyn ymadael, gan gynnwys mewn meysydd datganoledig. Cyfeiriadau nad ydynt yn rhai newidiadwy yw cyfeiriadau nad ydynt yn cael eu diweddaru'n awtomatig. Mae hefyd yn darparu ar gyfer sut y dylid darllen croesgyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE ar ôl ymadael.
(Mae hefyd yn ychwanegu nifer o eiriau ac ymadroddion i Ddeddf Dehongli a Diwygio Deddfwriaethol (Yr Alban) 2010 a Deddf Dehongli (Gogledd Iwerddon) 1954 ac mae'n darparu rheolau cyffredinol o ran dehongli yn sgil cyflwyno "cyfraith yr UE a ddargedwir".)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn dirymu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE, gan gynnwys mewn meysydd datganoledig. Mae angen y diddymiadau a'r dirymiadau hyn i ddileu darpariaethau diangen o ddeddfwriaeth ddomestig. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion mewn perthynas â'r diddymiadau. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 3 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|